Scroll to content
Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell Welsh home page

Ysgol Gynradd
Gymraeg y Castell

Cysylltwch â ni

ADY

Deddf ADY Newydd

 

Mae Llywodraeth Cymru eisiau trawsnewid disgwyliadau, profiadau a deilliannau i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

I wneud hyn, maent wedi datblygu rhaglen trawsnewid system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a fydd yn gweddnewid y systemau gwahanol ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion ac ar gyfer anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) mewn addysg bellach, er mwyn creu system unedig i gefnogi dysgwyr ADY o 0 hyd at 25 oed.

Bydd y system, ar ei newydd wedd, yn:

  • sicrhau bod pob dysgwr sydd ag ADY yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn cyflawni ei lawn botensial
  • gwella’r broses o gynllunio a chyflwyno cymorth i ddysgwyr o 0 hyd at 25 oed sydd ag ADY, gan roi anghenion, safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r dysgwyr wrth wraidd y broses
  • canolbwyntio ar bwysigrwydd nodi anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau amserol ac effeithiol ar waith sy’n cael eu monitro a’u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni’r deilliannau a ddymunir.

Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru - beth sy'n digwydd?

I wylio'r ffilm hwn yn Saesneg - ewch i https://youtu.be/00gHqzWowPghttps://llyw.cymru/rhaglen-trawsnewid-system-anghenion-dysgu-ychwanegol-cyflwyniad

Rhaglen trawsnewid system anghenion dysgu ychwanegol

Beth yw CDU - SnapCymru