Nant Cwm Parc
Blwyddyn 6 - Nant Cwm Parc
Croeso i dudalen Nant Cwm Parc! Mae 25 ohonom ni yn y dosbarth ac rydym ni yn ddosbarth brwdfrydig, caredig a hapus sydd yn mwynhau her! Yn anffodus, dyma ein blwyddyn olaf yn Ysgol y Castell ond bwriadwn weithio’n galed a mwynhau bob eiliad eleni cyn i ni ddechrau ein hantur newydd yn yr Ysgol Uwchradd.
Pob bore rydym yn mwynhau gweithgareddau darllen, Rhifedd a Llythrennedd. Yn y prynhawniau rydym yn cyflawni gweithgareddau thema. Byddwn yn cynnal ein sesiynau Addysg Gorfforol ar brynhawn dydd Mercher - cofiwch i wisgo eich esgidiau rhedeg a gwisg ymarfer corff ysgol. Bydd gwersi lles gyda Mrs Brown a gwersi celfyddydau mynegiannol gydag On the Beat yn cael eu cynnal bob bore dydd Mawrth.
Bydd geiriau sillafu yn cael eu rhoi ar dudalen Google Classroom y dosbarth gyda phrawf sillafu bob bore dydd Gwener.
Fel disgyblion hynaf yr ysgol, mae disgwyliadau uchel ohonom ac mae cyfrifoldebau pwysig iawn gyda ni eleni. Rydyn ni’n gyfrifol am arwain y ffordd a modelu esiampl arbennig i ddisgyblion eraill yr ysgol o ran cymreictod, ymddygiad, ymdrech a thrwy ddilyn gwerthoedd a rheolau’r ysgol. Rhywbeth byddwn yn anelu i wneud gyda balchder!
Peidiwch ag oedi i gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau,
Mr Evans