Scroll to content
Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell Welsh home page

Ysgol Gynradd
Gymraeg y Castell

Cysylltwch â ni

Nant Ddu

Blwyddyn 6 - Nant Ddu

Shwmae! Croeso i dudalen Dosbarth Nant Ddu.

 

Mae 22 ohonom ni yn y dosbarth ac rydym ni yn ddosbarth brwdfrydig, caredig a hapus sydd yn mwynhau her! Yn anffodus, dyma ein blwyddyn olaf yn Ysgol y Castell ond bwriadwn weithio’n galed a mwynhau bob eiliad eleni cyn i ni ddechrau ein hantur newydd yn yr Ysgol Uwchradd.

 

Pob bore rydym yn mwynhau gweithgareddau darllen, Rhifedd a Llythrennedd. Yn y prynhawniau rydym yn cyflawni gweithgareddau thema. Byddwn yn cynnal ein sesiynau Addysg Gorfforol ar brynhawn dydd Mawrth - cofiwch i wisgo eich esgidiau rhedeg a gwisg ymarfer corff ysgol. Bydd gwersi lles gyda Mrs Brown a gwersi celfyddydau mynegiannol gydag On the Beat yn cael eu cynnal bob bore dydd Mawrth.

 

Bydd geiriau sillafu yn cael eu rhoi ar dudalen Google Classroom y dosbarth gyda phrawf sillafu bob bore dydd Gwener.

 

Fel disgyblion hynaf yr ysgol, mae disgwyliadau uchel ohonom ac mae cyfrifoldebau pwysig iawn gyda ni eleni. Rydyn ni’n gyfrifol am arwain y ffordd a modelu esiampl arbennig i ddisgyblion eraill yr ysgol o ran cymreictod, ymddygiad, ymdrech a thrwy ddilyn gwerthoedd a rheolau’r ysgol. Rhywbeth byddwn yn anelu i wneud gyda balchder!

 

Peidiwch ag oedi i gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau,

 

Mr Evans