Scroll to content
Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell Welsh home page

Ysgol Gynradd
Gymraeg y Castell

Cysylltwch â ni

Arweinwyr Digidol

Arweinwyr Digidol Ysgol y Castell

2024 - 2025

Dyma ein harweinwyr digidol a chafwyd eu hethol ar ddechrau'r flwyddyn. Bu'r dysgwyr yn brysur iawn yn ysgrifennu a chreu datganiadau personol i gefnogi eu ceisiadau. Rydyn ni wedi bod yn trafod ein rôl a chyfrifoldebau wrth ymgymryd â'r swydd bwysig yma yn ogystal â dewis targedau newydd!

Ein rôl

Ein rôl ni fel Arweinwyr Digidol yw hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol ac i hybu datblygiad Digidol yn yr ysgol.

Cyfrifoldebau

  • Rhannu sgiliau ac arbenigedd gyda dysgwyr ag athrawon.

  • Arwain a gwerthuso yn erbyn targedau yng nghynllun datblygu’r ysgol.

  • Cymryd rhan yn ‘Teithiau Dysgu’ a ‘Gwrando ar Ddysgwyr.’

  • Gosod offer digidol yn drefnus yn y dosbarthiadau.

  • Cefnogi athrawon i ddefnyddio TGCh yn y dosbarth.

  • Profi adnoddau digidol newydd e.e gwefannau, ac apiau.

Targedau 2024 - 2025

Gwefannau Defnyddiol - Cadw'n Ddiogel Ar-lein