Scroll to content
Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell Welsh home page

Ysgol Gynradd
Gymraeg y Castell

Cysylltwch â ni

Croeso i Ysgol Y Castell

Croeso Cynnes i Gymuned Ysgol Y Castell 

 

Mae dewis yr ysgol gywir i'ch plentyn yn hollbwysig.  Mae'r rhan fwyaf o rieni am sicrhau addysg dda i'w plant ond maent hefyd am iddynt fod yn hapus a theimlo'n ddiogel.  Yn Ysgol Y Castell, credwn y gallwn gynnig pob un o'r nodau yma.  

 

Yn yr ysgol hon, rydym yn ymfalchio yn yr ffaith ein bod yn cynnig cwricwlwm cyflawn ac eang i'n plant. Yn ogystal ag ennill dwy iaith, sgiliau mathemategol, creadigol a thechnolegol, bydd eich plentyn yn magu hyder, hunan-ddibyniaeth, y gallu i wneud penderfyniadau a'r modd i fynegi barn a theimladau mewn ffordd eglur.  Rydym yn gosod pwyslais mawr ar ddatblygu sgiliau cymdeithasol y plant wrth eu helpu i adeiladu perthynas agos, barchus gyda phlant ac oedolion.  Anogwn y plant i ddangos sensitifrwydd tuag at deimladau ac anghenion eraill.

 

Gallaf eich sicrhau taw llwyddiant a chynnydd yw'r geiriau mawr yn yr ysgol hon.  Mae staff yr ysgol yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei lawn botensial mewn awyrgylch hapus ac heriol.  Anelwn at ddatblygu hunanwerth ym mhob unigolyn, wedi'r cyfan, os ydych yn teimlo'n llwyddiannus wedyn fe fyddwch yn llwyddiannus!

 

Mae'ch cyfraniad chi yn holl bwysig yn y broses hon.  Anelwn bob amser i roi gwybodaeth i chi am y ffyrdd rydyn ni'n gweithio gyda'ch plentyn.  Bydd croeso i chi ddod i'r ysgol yn rheolaidd i drafod gwaith a datblygiad eich plentyn.

 

Mae plentyndod, rydw i'n siwr i chi gytuno, yn amser arbennig iawn a dim ond un cyfle mae pob plentyn yn cael i'w brofi.  Byddwn ni yma yn Y Castell yn gwneud pob peth y gallwn i wneud plentyndod yn brofiad hapus, gwerth chweil i'ch plentyn.