Cyfeillion yr Ysgol
Croeso cynnes i chi gyd...
Sefydlwyd Cyfeillion yr Ysgol fel mudiad i godi arian i'r plant. Pwyslais y pwyllgor yw trefnu gweithgareddau hwyliog i'r plant - ein disgos diwedd tymor, nosweithiau ffilm ac ati. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau teuluol - barbeciws, ffeiriau Nadolig ac ambell ddigwyddiad i oedolion.
Mae'r pwyllgor yn hoffi cadw'r hwyl wrth godi arian parod mawr ei angen i'r ysgol. Byddem yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r pwyllgor.
Rydym yn cyfarfod yn fisol ac mae croeso arbennig i unrhywun rannu syniadau codi arian neu roddion gwobrau raffl. Gallwch hefyd helpu trwy gymryd rhan mewn cymaint o ddigwyddiadau a mentrau codi arian ag y gallwch.