Cytundeb Ysgol Cartref
Cytundeb Ysgol – Cartref
Mae’n bleser gennym gyflwyno copi personol i chi o’n Cytundeb Ysgol – Cartref.
Mae’r ddogfen hon yn statudol ar gyfer pob ysgol ac wedi ei chynllunio i gefnogi’r bartneriaeth rhwng yr ysgol a’r cartref er mwyn sicrhau bod ein plant yn derbyn yr addysg orau posib. Rydym yn hyderus y byddwch yn gwerthfawrogi pwrpas y fenter hon ac yn barod i’w chefnogi er mwyn sicrhau ei llwyddiant. Os gwelwch yn dda a wnewch chi arwyddo’r ffurflen amgaeёdig, a’i dychwelyd at athro / athrawes eich plentyn.