Scroll to content
Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell Welsh home page

Ysgol Gynradd
Gymraeg y Castell

Cysylltwch â ni

Hanes yr Ysgol

Hanes yr ysgol

 

Fe agorodd yr ysgol ym Medi 1995 gyda 118 o blant fel ymateb i'r galw cynyddol gan rieni am Addysg Gymraeg. Pennaeth cyntaf yr ysgol oedd Mrs Meinir Llewelyn a ddilynwyd gan Miss Gwenllian Jenkins a benodwyd yn Ionawr 1998.  Mrs Helen Nuttall oedd Pennaeth yr ysgol o 2009 hyd at ei ymddeoliad yng Ngorffennaf 2023. Mr Gareth Hughes yw'r Pennaeth presennol; cafodd ei benodi ym Medi 2023.  Erbyn hyn, mae'r ysgol yn ffynnu gyda 467 o ddisgyblion.

 

Adnewyddwyd yr adeilad (a oedd yn wreiddiol yn Ysgol Ramadeg y Merched) i'r safon uchaf posib. Yn edrych allan dros Gastell Caerffili, sy'n dod a'r gorffennol yn fyw, mae'r ysgol mewn safle unigryw gyda golygfeydd godidog. Agorwyd adeilad newydd i blant Meithrin yn Chwefror 2021.

 

Daw'r mwyafrif llethol o'r disgyblion o aelwydydd Saesneg eu hiaith. Yn y dalgylch cynhwysir Bedwas, Machen, Trethomas, Graig y Rhacca, Llanbradach a rhannau o Gaerffili. Mae cludiant rhad ac am ddim ar gyfer disgyblion sy'n byw fwy na milltir a hanner o'r ysgol.