MATh
Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi anghenion y plant MATh trwy amrywiaeth o strategaethau dysgu a phrofiadau allgyrsiol cyfoethog. Yn ogystal â chydweithio'n agos gyda'r EAS fel ysgol rhwydwaith MATh, rydym wedi derbyn ail-achrediad 'Y Wobr Her' NACE (National Association for Able Children in Education) yn 2022.
Esiampl o strategaethau'r ysgol sy'n herio plant MATh yw:
* Gweithgareddau ymestyn a chyfoethogi (e.e. prosiectau creadigol)
* Dilyn llais a diddordebau’r plentyn wrth gynllunio
* Mabwysiadu ymagweddau datrys problemau ac entrepreneuriaeth
* Defnydd o blant MAT fel tiwtoriaid
* Canmol a dathlu cyflawniadau disgyblion MAT
* Cyfleoedd i berfformio a chystadlu’n rheolaidd (e.e. chwaraeon, cerddoriaeth, ysgrifennu, darllen neu fathemateg, dawns a chelf).
* Defnyddio'r gymuned ehangach i gyfoethogi profiadau gan gynnwys ymweliadau addysgol, cyrsiau preswyl a defnydd o'r llyfrgell gyhoeddus a'r Galeri.
* Gwahodd arbenigwyr i'r ysgol i ysgogi ac ehangu gorwelion plant MAT at yrfaoedd uchelgeisiol.
* Gweithgareddau ychwanegol i blant MAT blwyddyn 6 wrth iddynt bontio i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni (STEM, ieithoedd tramor modern a rhifedd).
Gwelir y polisi mwy abl a thalentog er mwyn adnabod sut yr ydym yn diffinio dysgwyr MATh a'u hadnabod ar draws y chwe maes dysgu.