Podlediad
Nod y prosiect yw i ddarparu amrywiaeth o brofiadau mewn cyd-destunau gwahanol i alluogi dysgwyr MATh ar draws yr ysgol i wella’u sgiliau llafaredd a chyrraedd eu potensial.
Sefydlu platfform digidol Podlediad Y Castell a’u rhannu gyda chymuned ehangach yr ysgol.
Ffocws ar y pedwar diben craidd yn gwreiddio’r holl brosiect.
Darparu cyfleoedd i ddysgwyr MATh i ddefnyddio’u lais wrth gynllunio, recordio a golygu amrywiaeth o raglenni ar gyfer Podlediad Y Castell.
Darparu ystod o brofiadau eang er mwyn cwrdd ag anghenion dysgwyr MATh a datblygu eu sgiliau llafaredd a chymhwysedd digidol mewn cyd-destunau a genres gwahanol.
Darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a TGCh wrth arwain y prosiect ar draws yr ysgol.