Scroll to content
Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell Welsh home page

Ysgol Gynradd
Gymraeg y Castell

Cysylltwch â ni

Presenoldeb

Presenoldeb a Phrydlondeb 

Mae Ysgol Y Castell yn ystyried presenoldeb da, prydlon yn hanfodol i gynnydd addysgol yr unigolyn a'r dosbarth. Cymerir y gofrestr presenoldeb yn electronig ar ddechrau pob sesiwn bore a phrynhawn ac mae'n dilyn codau presenoldeb Cyngor Caerffili. 

 

Mae'r ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i bresenoldeb gan drosglwyddo negeseuon cadarnhaol i rieni a disgyblion bod presenoldeb rheolaidd yn hanfodol a bod absenoldeb anawdurdodedig yn annerbyniol. 

 

Ar ôl cynnal ymchwil sylweddol, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais cryf ar wella lefelau presenoldeb ym mhob ysgol. Mae'r ymchwil a gynhaliwyd yn dangos yn glir mai'r plentyn sy'n mynychu'r ysgol yn fwy rheolaidd, po fwyaf y byddant yn ei ddysgu a'i gyflawni. 

 

Absenoldebau 

Os na all eich plentyn fynychu'r ysgol am reswm derbyniol e.e. salwch; cysylltwch â'r ysgol cyn 9:15yb neu gadewch neges ar linell absenoldeb ysgolion. 

 

Pan fydd eich plentyn yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl cyfnod o absenoldeb, gofynnwn i chi anfon nodyn eglurhad am yr absenoldeb. Mae hyn yn ychwanegol at y galwad ffôn a wnaed ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb. Gellir anfon y nodyn gyda'r disgybl pan fydd ef / hi yn dychwelyd i'r ysgol. 

 

Rhaid pwysleisio mai dim ond am resymau dilys (e.e. salwch) y gall yr ysgol gofnodi absenoldeb awdurdodedig. Bydd rhesymau eraill dros absenoldeb yn cael eu cofnodi fel absenoldeb heb ganiatâd.

 

 

 Mae mwyafrif o rieni a dysgwyr yn meddwl bod presenoldeb o 90% yn dda.  Ydyn nhw’n gywir?

 

90% presenoldeb   =   ½ diwrnod ar goll yn wythnosol!

 

Presenoldeb ar ddiwedd y flwyddyn

Diwrnodau a gollwyd o’r ysgol

100%

0

99.5%

1

97.4%

5

95%

10

90%

19

87%

24

85%

28

80%

38

75%

47

 

90% presenoldeb dros bum mlynedd yn yr ysgol   =   ½ blwyddyn ysgol ar goll!