Sut i ymgeisio
Mae'n ofynnol i rieni wneud cais am le ar gyfer Plant sy'n Codi'n 3 oed, Meithrin a Derbyn.
Cysylltwch â ni yn yr ysgol os oes angen unrhyw gefnogaeth gyda'r broses ymgeisio a byddwn yn fwy na pharod i helpu.
Codi’n 3 oed = Gall plant sy’n 3 oed cyn 31.12.23 wneud cais am le ym mis Ionawr 2024 a gall plant sy’n cael eu pen-blwydd cyn 31.03.24 wneud cais am le ar gyfer Ebrill 2024.
Meithrin = Gall plant sydd gyda 3ydd pen-blwydd cyn 31.8.23 wneud cais am le ar gyfer Medi 2024
Derbyn = Gall plant sydd gyda 4ydd pen-blwydd cyn 31.8.23 wneud cais am le ar gyfer Medi 2024
Dyma'r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau:
Cais ar gyfer.... | Dyddiad Cau | Derbyn canlyniad y cais |
Codi'n 3 Ionawr | 27.10.23 | Diwedd Tachwedd 2023 |
Codi'n 3 Ebrill | 27.10.23 | Diwedd Tachwedd 2023 |
Meithrin | 23.02.24 | Diwedd Mai 2024 |
Derbyn | 15.12.23 | 16eg o Ebrill 2024 |
Gallwch gyflwyno eich cais yma:
https://www.caerffili.gov.uk/services/schools-and-learning/admissions-and-appeals/primary-and-secondary-school-admissions?lang=cy-gb
Rydym yn fwy na pharod i groesawu darpar rieni i’r safle am ymweliad. Cysylltwch â’r ysgol os hoffech alw i mewn am sgwrs anffurfiol neu i weld ein darpariaeth. Cadwch olwg am ein diwrnodau agored.