Scroll to content
Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell Welsh home page

Ysgol Gynradd
Gymraeg y Castell

Cysylltwch â ni

Yr Hafan

Hafan

Yn Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell mae addysgu a dysgu wedi'u hadeiladu ar sylfaen gadarn sy'n gynhwysol, yn heriol, yn cefnogi ac yn feithrin lles ein disgyblion.

 

Fodd bynnag, i rai disgyblion gall mynediad i’r cwricwlwm fod yn heriol, o ganlyniad i rwystrau cymdeithasol/emosiynol, cyfathrebu ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt trwy feithrin lles. 

 

Mae ymchwil yn dangos bod dysgu plant ar ei fwyaf effeithiol, pan fydd ganddynt ymdeimlad o les emosiynol, hunan-barch da a theimlad o berthyn. Mae ein ‘Hafan’ yn rhoi’r cyfle hwn i blant, gan helpu i ddatblygu aeddfedrwydd a gwytnwch.

 

Yn yr Hafan anelwn at sicrhau:

  • Mae dysgu'r plant yn cael ei deall o safbwynt datblygiadol
  • Mae'r Ystafell Ddosbarth yn cynnig sylfaen ddiogel
  • Cyfathrebu yw pob ymddygiad
  • Pwysigrwydd anogaeth ar gyfer datblygiad llesiant
  • Mae iaith yn ffordd hanfodol o gyfathrebu
  • Pwysigrwydd pontio ym mywydau plant

 

Mae ein staff profiadol wedi’u hyfforddi’n benodol i weithio gydag unigolion neu grwpiau bach i gefnogi lles plant, gan ddefnyddio ymyrraethau Thrive ac ELSA yn ogystal a gweithdy grwp Therapi Lego a Gorbryder.

 

Mae ein staff profiadol wedi’u hyfforddi’n benodol i weithio gydag unigolion neu grwpiau bach i gefnogi lles plant, gan ddefnyddio ymyrraethau Thrive ac ELSA.

 

Mae'r sesiynau'n hwyl ac yn llawn gwybodaeth, gan ddefnyddio gweithgareddau ac adnoddau i ysgogi, ymgysylltu a chefnogi. Mae plant yn cael eu haddysgu am strategaethau i gefnogi eu lles yn ogystal â chanolbwyntio ar eu cyrff i nodi a chydnabod beth sy'n digwydd pan all teimladau eu llethu.


 

Gall plant fynychu sesiynau yn yr Hafan am resymau penodol, er enghraifft:

  • Anawsterau cyfeillgarwch – cadw/gwneud ffrindiau
  • Tawel, swil,
  • Cael hi'n anodd gwrando ar eraill neu ymuno
  • Ymharru ar eraill
  • Cael hi'n anodd rhannu a chymryd tro
  • Anodd setlo yn y dosbarth
  • Hunan-barch isel
  • Perthynas wael ag oedolion yn yr ysgol
  • Profedigaeth
  • Salwch teuluol neu chwalu

 

Nod ymyrraethau yn yr Hafan yw hybu hyder a hunan-barch a rhoi’r cymorth ychwanegol sydd ei angen weithiau ar blant i wella sgiliau cymdeithasol ac annibyniaeth, er enghraifft:

  • I ymuno
  • I setlo
  • I wrando a chanolbwyntio
  • I rannu a chymryd tro
  • Meithrin cyfeillgarwch gyda'u cyd-ddisgyblion
  • Mae'n rhoi cyfle iddynt ac yn helpu i annog proffil mwy cadarnhaol ymhlith eu cyfoedion ac aelodau o staff.
  • Yn helpu plant i reoli sefyllfaoedd a chynyddu eu sgiliau i ddod yn ddysgwyr mwy llwyddiannus.


 

Mae ein Hafan yn adnodd hanfodol yn Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell. Mae'n darparu pont rhwng y cartref a'r ysgol; man lle gall plant deimlo’n ddiogel i archwilio eu lles emosiynol a chymdeithasol, dysgu amdanyn nhw eu hunain, datblygu a thyfu’n ddysgwyr cymwys, gwydnwch.

 

Mae croeso i rieni cysylltu â’r ysgol a siarad â Mrs Field a Miss Thomas i drafod eu plentyn, os ydynt yn teimlo y byddai eu plentyn yn elwa o gefnogaeth anogaeth.